Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ebrill 2018
Amser:
09.05 -
12.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4845
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Dr Alison Parken, Prifysgol Caerdydd Rosalind Bragg, Maternity Action Cerys Furlong, Chwarae Teg Catherine Fookes Emma Webster, Your Employment Settlement Service James Moss, Slate Legal Bethan Darwin, Thompson Darwin Law |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC a Jack Sargeant AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Alison Parken, Aelod o Bwyllgor Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
· Rosalind Bragg, Cyfarwyddwr, Maternity Action
2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ddarparu:
· trosolwg o'r mesurau cyfreithiol i ddiogelu menywod rhag gwahaniaethu o ganlyniad i feichiogrwydd a mamolaeth.
2.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Maternity Action i ddarparu:
· enghreifftiau o arfer da o wledydd eraill lle y mae cyflogwyr yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol â gweithwyr yn ystod eu beichiogrwydd a'u cyfnod mamolaeth;
· atebion ysgrifenedig i gwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys:
– a yw cyngor ar yrfaoedd wedi ei deilwra'n ddigonol i helpu menywod sy'n ymuno â’r byd gwaith neu'n dychwelyd iddo ar ôl cael plentyn;
– sut y gall rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru gefnogi mamau hunangyflogedig;
– unrhyw wybodaeth bellach ar y Cynllun Gweithredu Economaidd a'r Cynllun Cyflogadwyedd.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
· Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Emma Webster, Cyd Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Gyfreithiwr, Your Employment Settlement Service
· James Moss, Partner, Slate Legal
· Bethan Darwin, Partner, Thompson Darwin Law
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.
5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Senedd yr Alban, mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunwyd arno.